Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
HSC(4)-15-12 papur 10
Blaenraglen Waith
PWYLLGOR IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL: BLAENRAGLEN WAITH AC AMSERLEN
Diben
1. Diben y papur hwn yw amlinellu’r busnes a ddisgwylir ar gyfer amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hydref / gaeaf 2012, ac i ofyn am farn Aelodau ar flaenraglen waith y Pwyllgor.
Cefndir
2. Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gyfrifol am archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy’n cynnwys: iechyd corfforol, meddyliol a chyhoeddus pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.
3. Hyd yma, mae rhaglen y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar waith polisi. Gan edrych ar dymor yr hydref a’r gaeaf, mae’n ymddangos y bydd yn gyfnod dwys o ran cyfrifoldebau deddfwriaethol y Pwyllgor.
Busnes a ddisgwylir o Fedi – Rhagfyr 2012
4. Mae nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth yn debygol o gael eu cyfeirio at y Pwyllgor i’w hystyried yn ffurfiol dros y misoedd nesaf. Ceir manylion pellach am y rhain yn Atodiad A i’r papur hwn. Disgwylir y bydd angen dyrannu’r mwyafrif o amser y Pwyllgor i’r gwaith hwn rhwng Medi a Rhagfyr 2012.
5. Yn ogystal â gwaith deddfwriaethol y Pwyllgor, fe fydd angen iddo ystyried y gyllideb ddrafft ar gyfer 2013-14 yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
6. O ganlyniad i hyn oll, mae’n anochel y bydd gallu’r Pwyllgor i gyflawnu gwaith craffu ar bolisi yn fwy cyfyngedig nag y buodd dros y 12 mis diwethaf. Er hynny, bydd cyfle i wneud darn hyblyg o waith polisi o gwmpas ymrwymiadau ddeddfwriaethol a chyllidebol y Pwyllgor.
Opsiynau
7. O ystyried yr angen i raglen y Pwyllgor ganolbwyntio’n fwy ar ddeddfwriaeth yn nhymor yr hydref, fe fydd angen i unrhyw waith polisi a ddewisir gan Aelodau fod yn ddigon hyblyg i gyd-fynd â’r amserlenni penodedig a osodir ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth a’r gyllideb.
8. Fe gynigir, felly, y dylai’r Pwyllgor ddewis un pwnc polisi i’w ystyried yn nhymor yr hydref / gaeaf. Byddai modd trefnu’r gwaith hwn I gydfynd ag ymrwymiadau deddfwriaethol a chyllidebol y Pwyllgor.
9. Unwaith i’r Pwyllgor ddewis pwnc, fe fydd Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor yn darparu papur cwmpas a chylch gorchwyl drafft er ystyriaeth Aelodau. Awgrymir y dylai’r Pwyllgor lansio ymgynghoriad dros gyfnod yr haf er mwyn cynnig digon o amser i bobl gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer tymor yr hydref.
10. Er gwybodaeth Aelodau, darperir rhestr o bynciau posib a awgrymwyd gan Aelodau a / neu randdeiliaid yn y gorffennol yn Atodiad B ’r papur hwn.
Y cynnig
11. Gwahoddir Aelodau i:
(i) ystyried yr opsiynau a amlinellir ym mharagraffau 7 – 10;
(ii) gynnig unrhyw syniadau cychwynnol ar gyfer ymchwiliad.
ATODIAD A – Amserlen posibl deddfwriaeth arfaethedig
Mae’r amserlen isod yn rhoi syniad yn unig ac wedi ei seilio ar wybodaeth a roddwyd gan yr Aelodau sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth. Mae’n bosibl y caiff y dyddiadau eu newid gan yr Aelodau perthnasol sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth.
Bil |
Yr aelod sy’n gyfrifol |
Amseru |
Bil Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Dangos Gwybodaeth) (Cymru) |
Bil Llywodraeth – Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Cyfnod 1: Haf – Hydref 2012 Cyfnod 2: Hydref 2012 |
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) |
Bil Llywodraeth – Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol |
Cyfnod 1: Hydref – Gaeaf 2012 Cyfnod 2: Gaeaf – Gwanwyn 2013 |
Bil Rhoi Organau (Cymru) |
Bil Llywodraeth – Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Cyfnod 1: Gaeaf 2012 Cyfnod 2: Gwanwyn 2013 |
Bill Iechyd y Cyhoedd (Cymru) |
Bil Llywodraeth – Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Ail hanner tymor 5 mlynedd y Llywodraeth |
Efallai yr hoffai aelodau fod yn ymwybodol hefyd y derbyniodd Bil Asbestos (Adennill Costau Meddygol), a gynigiwyd gan Mick Antoniw AC, ganiatad y Cynulliad i fynd ymlaen. Mae’n debygol y bydd yn dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac o ganlyniad, mae’n bosibl y caiff ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w ystyried yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 yn hydref a gaeaf 2012.
ATODIAD B – Pynciau ymchwiliadau polisi posib a awgrymwyd hyd yma
Rhestr o bynciau sydd eisoes wedi’u crybwyll gan Aelodau / rhanddeiliaid sydd isod. Nid oes rhaid i Aelodau ddewis o’r rhestr isod – fe’i darparwyd er gwybodaeth yn unig. Gellir darparu rhestr ehangach / mwy o fanylder yn hwyrach yn y tymor, fel bo angen.
· Defnydd Technoleg Gwybodaeth yn y GIG |
· Strategaeth / gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru |
· Access to medicines / treatments in Wales |
· Gwasanaethau Anabledd Dysgu |
· Gofal Iechyd yng Ngharchardai Cymru |
· Nyrsys arbenigol a nyrsys ymgynghorol |
· Gwasanaethau Cyd-ymatebwyr yng Nghyrmu |
· Anghydraddoldebau iechyd |
· Anhwylder Straen Wedi Trawma |